Gitâr a Technoleg Cerddoriaeth

Dysgwch ganu'r gitar!
Bwriad y gweithdy yw cynorthwyo pobl gydag ond ychydig neu hyd yn oed heb unrhyw brofiad o'r gitār i ddeall sylfaenu chwarae'r offeryn a dysgu chwarae cerddoriaeth o'u dewis hwy.
Tiwtor-Terry Thomas Terry Thomas - Tiwtor
Perfformiad gan Ivor Sloan

Gan fod yna diwylliant gerddorol bywiog ac amrywiol yn Abertawe cynigir cymorth a chyngor ar sut i chwarae mewn band, ysgrifennu caneuon, trefniadau cerddorol a pherfformio ar gyfer mwynhad cynulleidfa.

Mae croeso i bawb ymuno a dysgu crefft greadigol sy'n hwyl. Gobeithiwn y gallwch adael y gweithdai yn gerddor hyderus a medrus.

Gitar acwstic a gitar electric
Mewn awyrgylch anffurfiol, cyfeillgar mae'r aelodau yn dysgu chwarae cordiau ac alawon syml. Dysgant hefyd pa gordiau sy'n cydweithio â'u gilydd a pham, a sut i chwarae gyda cherddorion eraill.
Dysgu'r Gitar
Mae hyn oll yn meithrin hunan hyder a hunan werth ac yn sylfaen y gallant adeiladu arno er mwyn datblygu eu chwarae ymhellach.

Mae'r gweithdai yn datblygu ar gyflymdra'r aelodau unigol ac maent wedi eu haneli at anghenion a gofynion yr aelodau. Y bwriad yw galluogi'r disgyblion i ddysgu pa bynnag arddull o gerddoriaeth sy'n apelio iddynt.

Rhed y gweithdai o 11.00 y bore hyd at 4.00 ar ddydd Llun.

Nadolig llawen oddiwrth y grwp gitar

Drwy gydweithio â'r adran Technoleg Gwybodaeth rydym bellach yn cynnig Gweithdy Technoleg Cerddoriaeth gan gynnwys recordio sain, digidol a midi.

 

Am amseroedd y gweithdy hwn a'r gweddill dychwelwch i'r Amserlen Gweithdai.

 

 

Valid CSS! Valid HTML 4.01 Transitional

Canolfan Celfyddydau a Dysg y Ddraig, 54 Heol Morfa, Hafod, Abertawe, SA1 2EN
Tel: 01792 467940 ebost:
dragon@dragonarts.co.uk