Technoleg Gwybodaeth
"compiwtars i chi a fi!!"

Pwrpas yr adran hon yw rhoi cyfle i aelodau'r ganolfan i ddatblygu sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth mewn sesiynau anffurfiol ar ddydd Mercher. Mae'n haelodau yn gallu gweithio ar gyflymdra sy'n i siwtio eu gallu neu eu hanghenion.

Tiwtoriaid - Gary Lewis

Gary Lewis

a Prys Lewis

Tutor - Prys Lewis

Gan fod bywydau pobl yn gallu bod yn ansefydlog ar brydiau mae'r sesiynau yma'n rhoi profiad a chyfle i ddysgu rhai sgiliau sylfaenol Technoleg Gwybodaeth i rai nad ydynt yn gallu mynychu cyrsiau rheolaidd ffurfiol.

Gall aelodau ddilyn cyfres o 'fodiwlau' wedi eu seilio ar yr arholiad 'ECDL' neu gallant ddewis eu prosiect dysgu eu hunain a'i ddilyn ar eu cyflymdra hwy.

Gall aelodau ddilyn cyrsiau ar-lein sy'n cynnig cymwysteray cydnabyddedig ac mae nifer ohonynt am ddim.

Dyma rai o'r cyfleoedd addysgol a chreadigol mae'n haelodau eisoes yn manteisio arnynt;-

Pynciau

 

National Open College Network Wales

Rydym bellach wedi cael ein cyfrestru yn ganolfan sy'n cynnig hyfforddiant a chymwysterau cydnabyddedig o dan aden y Rhwydwaith Cenedlaethol Colegau Agored (National Open College Network). Mae'n bosib i chi ein haelodau i ennill cymwysterau ym mhob un o'n gweithdai.

Syrffio'r We

Bu'r aelodau ynghlwm a dylunio'r we fan yma a gobeithir rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwe fannau eu hunain.

Cynigir y sesiynnau hyn drwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg. Er nid oes defnyddiau cyfeiriol ar gael i bob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r adran ac adnoddau Technoleg Gwybodaeth yn cael eu defnyddio gan nifer o'r tiwtoriaid eraill - gan gynnwys y dosbarth ffotograffiaeth sganiwr tryloywon a negatifs, sganiwr ffotograffau a Argraffydd Laser.

Yn y dyfodol bydd y grwp gitār yn gallu manteisio ar yr offer Recordio a Golygu Cerddoriaeth digidol.

Rydym yn cynnig modiwlau trwy gynllun gwerthuso'r NOCN. Yn rhan o bob lefel, gallwch wneud modiwlau sy'n ennill unedau o gredid i chi. Wrth i chi gasglu mwy o unedau maent yn cyfrannu tuag at cymhwyster cydnabyddedig. Mae'r lefelau ac modiwlau yn amrywio o

  • Dechrau o'r dechrau (Mynediad)
    Sistem weithredu Windows
    Prosesi Geiriau sylfaenol
    Defnydd sylfaenol o'r rhyngrwyd

 

  • Meddalwedd busnes uwch (Lefel dau/tri)
    Prosesi Geiriau uwch
    Lledlenni
    Basau Data
    Y Rhyngrwyd ac ebost
    Cyflwyniadau

Gallwn gynnwys pynciau mor amrywiol a dylunio safleoedd gwe a defnydd o feddalwedd graffeg ar gyfer y celfyddydau cain os oes diddordeb. Gwelwch isod am fwy o fanylion neu ewch i'r mynegair uchod.

'Word' a 'Publisher'

Rhoddir cyngor a hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r ddau raglen a defnyddiant yn rheolaidd ar gyfer ysgrifennu llythyrau , CV, ysgrifennu creadigol, cyhoeddu llyfrynnau o'u ysgrifau a cherddi eu hunain, creu posteri ar gyfer partion ...

nôl i'r top

'Excel' ac 'Access'

Cynnigir cyflwyniad i fasiau data a lled daflenni gan ddefnyddio Microsoft Excel a Access - yn arbennig o ddefnyddiol i'n haelodau sy'n bwriadu chwilio am waith mewn swyddfa neu ar gyfer gwella eu sgiliau cyfrifiadurol yn gyffredinol.

nôl i'r top

'Powerpoint'

Defrnyddir cyflwyniadau 'Powerpoint' ar gyfer pob math o bwrpasau ym myd gwaith. Rhoddir cyfle i aelodau i ymgyfarwyddo a'r prif elfennau.

nôl i'r top

Dylunio Gwe a defnydd o'r we.

Defnydd o'r we
Caiff ein haelodau eu dysgu i

Sut i sefydly cyfrif ebost ar y we.
Defnydd diogel a chyfrifol o'r we - beth i wneud a pheidio'i wneud tra'n 'syrffio', e-bostio, mewn stafelloedd cloncio (chatrooms), negeseuo sydyn (instant messageing).
Llwytho a rhedeg rhaglenni amlgyfrwng megis Flash neu Shockwave.
Sut i ddefnyddio peirannau chwilota yn effeithiol.

Dylunio Gwe

Dysgir sylfaeni creu tudalennau gwe a cyflwynir y rhaglenni dylunio gwe mwyaf poblogaidd FrontPage, Dreamweaver, Adobe Photoshop a Macromedia Fireworks. Gall aelodau hefyd ddysgu

Cyfosod Tudlaen We gan ddefnyddio

  • HTML sylfaenol ( y brif 'iaith' a ddefnyddir i greu safleoedd gwe)
  • Tablau
  • Fframiau
  • Haenau

Ffactorau i'w ystyried

  • Dolenni eglur a chlir -ei gwneud yn hawdd i hwylio o amgylch y safle.
  • Sicrhau bod y dudalen gyntaf yn llwytho'n gyflym.
  • Cadw thema neu arddull gyson drwy gydol y safle
  • Lliwiau
  • Delweddau / testun - cadw cydbwysedd

Paratoi delwddau ar gyfer y we
(Dewis maint a fformat yn ofalus)

Yna gall aelodau mynd yn eu blaenau i arbrofi gyda Java script, Java, Flash Applications a nifer o ffyrdd eraill o greu safle rhyngadweithiol deiniadol. Crewyd rhai o'r effeithiau ar y dudalen hon gan ddefnyddio JavaScript.

nôl i'r top

 
Am amseroedd y gweithdy hwn a'r gweddill dychwelwch i'r Amserlen Gweithdai.

Valid CSS! Valid HTML 4.01 Transitional

Canolfan Celfyddydau a Dysg y Ddraig, 54 Heol Morfa, Hafod, Abertawe, SA1 2EN
Tel: 01792 467940 ebost:
dragon@dragonarts.co.uk