Canolfan Celf a Dysg y Ddraig
Cwmpasiad Cymdeithasol drwy Celf a Dysg
Hanes byr
Sefydlwyd Canolfan y Ddraig yn 1999 a daeth o hyd i gartref newydd yn Lôn y Ddraig Werdd ger Heol Wind yn Abertawe.
Symudodd y ganolfan dros dor i'r Stryd Uchaf yn 2002 tra'n chwilio am gartref parhaol.
Yna symudodd y ganolfan yw gartref presennol, parhaol; 54 Heol Morfa, Yr Hafod yn 2005.
O dan ei henw newydd, Canolfan Celf a Dysg y Ddraig, cafodd ail-lawnsiad swyddogol gyda Andrew Davies AC, yn agor y ganolfan yn swyddogol ar Fai'r 27ain, 2005.
Mae gan y prosiect record heb ei ail yn denu pobl yn ôl i fyd hyfforddiant a dysgu gydol oes.
Cydnabuwyd hyn pan cafodd aelodau o'r Ganolfan eu gwobrwyo fel grwp ac fel unigolion yn seremoni NIACE Dysgu Cymru 2005 ac ELWA. Yn ogystal cafodd dau o'n tiwtoriaid "Gwobr Tiwtor Oedolion Arbennig". A chafodd un o'n dysgwyr "Gydnabyddiaeth Uchel" yn noson wobrwyo INSPIRE NIACE yn 2009.
Staff
Carey Hill:
Rheolwraig
Polly Stone:
Cydlynydd Gweithgareddau a Phrosiectau
Ryan Lloyd:
Gweithiwr Datblygiad Personol
Esther Ley:
Uwch Diwtoresther@dragonarts.co.uk
Andi Balsamo:
Tiwtor Cyfrifiaduron
Michelle Blease
Cydlynydd ESOL
Ein Lleoliad

Amserlen Newydd
Mae Canolfan y Ddraig yn rhan o Hyfforddiant a Chyflogaeth y Cyreniaid Cyf. (CET Ltd). Ariannir y prosiect i ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a chyglogaeth i oedolion wedi eu neulltio'n gymdeithasol yn ardal Bae Abertawe.
Mae gennym record sylweddol o genfogi a meithrin pobl nad ydynt wedi cael y cyfle i fynychu addysg prif-ffrwd neu sydd wedi bod tu allan i'r farchnad lafur am gyfnod maith.
Mae ein hamserlen yn gweithio mewn day ffordd. Mae rhai dosbarthiadau yn agored ac hyblyg. Gall aeoldau fynychu'r rhain pryd bynnag mae'n gyfleus heb drefnu o flaen llaw.
Ar gyfer rhai dosbarthiadau mae angen neulltio lle o flaen llaw. Mae'r dosbarthiadau hyn wedi eu achredu trwy Agored Cymru a gall aelodau ennill cymwysterau cenedlaethol. Gofynnwch i diwtor y dosbarth am y dyddiad dechrau nesaf - gallwch ymuno â'r dosbarth ar wahanol gyfnodau ar hyd y flwyddyn
Mae ein amserlen newydd yn cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous gan gynnwys gweithdy gwydr newydd.
Amserlen (.pdf)* (Clic ar y dde a dewiswch Save as or Save Target as).
*Nid yw ar gael yn Gymraeg ar y foment ond bydd yn cael ei gyfeithu yn fuan. Yn ogystal bydd angen Adobe Acrobat Reader - ar gael yma.
Am fwy o fanylion gallwch ymweld â gwefan CET Ltd - www.cetwales.co.uk
