Cerddoriaeth a Technoleg Cerddoriaeth
Bwriad y gweithdy yw cynorthwyo pobl gydag ond ychydig neu hyd yn oed heb unrhyw brofiad o'r gitâr i ddeall sylfaenu chwarae'r offeryn a dysgu chwarae cerddoriaeth o'u dewis hwy.
Gan fod yna diwylliant gerddorol bywiog ac amrywiol yn Abertawe cynigir cymorth a chyngor ar sut i chwarae mewn band, ysgrifennu caneuon, trefniadau cerddorol a pherfformio ar gyfer mwynhad cynulleidfa. Mae croeso i bawb ymuno a dysgu crefft greadigol sy'n hwyl. Gobeithiwn y gallwch adael y gweithdai yn gerddor hyderus a medrus.
Mewn awyrgylch anffurfiol, cyfeillgar mae'r aelodau yn dysgu chwarae cordiau ac alawon syml. Dysgant hefyd pa gordiau sy'n cydweithio â'u gilydd a pham, a sut i chwarae gyda cherddorion eraill.
Mae hyn oll yn meithrin hunan hyder a hunan werth ac yn sylfaen y gallant adeiladu arno er mwyn datblygu eu chwarae ymhellach.
Mae'r gweithdai yn datblygu ar gyflymdra'r aelodau unigol ac maent wedi eu haneli at anghenion a gofynion yr aelodau. Y bwriad yw galluogi'r disgyblion i ddysgu pa bynnag arddull o gerddoriaeth sy'n apelio iddynt.

Ar gyfer amserau'r gweithdy hwn a'r gweithdai eraill dychwelwch i'r amserlen
Dyma rhai enghreifftiau o gyfansoddiadau a gwaith aelodau
Intoxicated gan Derek McBrier
(Cliciwch y botwm dde a dewiswch "save as" neu "download" neu "Click to play in new window")
Shine gan Aisha Chaouche
(Cliciwch y botwm dde a dewiswch "save as" neu "download" neu "Click to play in new window")
In Case You've Forgotten gan Hywel Evans
(Cliciwch y botwm dde a dewiswch "save as" neu "download" neu "Click to play in new window")