Technoleg Gwybodaeth
"compiwtars i chi a fi!!"
Tiwtoriaid - Andi Balsamo a Prys Lewis
Mae Tiwtor GT newydd wedi dechrau yng Nghanolfan y Ddraig – Andi Balsamo. Bydd y dosbarthiadau cyffredinol GT yn cael eu cynnal trwy'r dydd ar ddydd Mawrth ac ar ôl amser cinio ar ddydd Iau.
Cynhelir y dosbarthiadau Dylunio Gwe ar Fore ddydd Llun.
Bydd yna gwrs Prosesi Geiriau newydd yn dechrau yn y ganolfan ar ddydd Mawrth y 3edd o Dachwedd o 2pm-4pm. Bydd y cwrs yn gwrs OCN cymhwyster Lefel Un a bydd yn cael ei gynnal ar yr un amser bob dydd Mawrth hyd at Nadolig. Mae croeso i fyfyrwyr newydd ond nifer cyfyng o lefydd sydd ar gael, felly ffoniwch y ganolfan os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r dosbarth
Pwrpas yr adran hon yw rhoi cyfle i aelodau'r ganolfan i ddatblygu sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth mewn sesiynau anffurfiol ar ddydd Mercher. Mae'n haelodau yn gallu gweithio ar gyflymdra sy'n i siwtio eu gallu neu eu hanghenion.
Gan fod bywydau pobl yn gallu bod yn ansefydlog ar brydiau mae'r sesiynau yma'n rhoi profiad a chyfle i ddysgu rhai sgiliau sylfaenol Technoleg Gwybodaeth i rai nad ydynt yn gallu mynychu cyrsiau rheolaidd ffurfiol.
Gall aelodau ddilyn cyfres o 'fodiwlau' wedi eu seilio ar yr arholiad 'ECDL' neu gallant ddewis eu prosiect dysgu eu hunain a'i ddilyn ar eu cyflymdra hwy. Gall aelodau ddilyn cyrsiau ar-lein sy'n cynnig cymwysterau cydnabyddedig ac mae nifer ohonynt am ddim. Dyma rai o'r cyfleoedd addysgol a chreadigol mae'n haelodau eisoes yn manteisio arnynt;
Rydym bellach wedi cael ein cofrestru yn ganolfan sy'n cynnig hyfforddiant a chymwysterau cydnabyddedig o dan aden y Rhwydwaith Cenedlaethol Colegau Agored (National Open College Network). Mae'n bosib i chi ein haelodau i ennill cymwysterau ym mhob un o'n gweithdai.