Pan fo'r tywydd yn caniatäu, gallwn gymryd mantais o'r golygfeydd hynod, lleol gyda thripiau rheolaidd i Benrhyn Gwyr, cestyll amrywiol, gerddi, parciau a llefydd eraill o ddiddordeb.
Mae'r grwp ffotograffiaeth yn cyfarfod bob dydd Mawrth, Mercher a dydd Iau. 'rydym yn grwp bach cyfeillgar ond gyda aelodau newydd yn mynd a dod yn aml, ac yn amrywio o ddechreuwyr llwyr i amaturiaid profiadol.
Yn y ganolfan fe ddangoswn ni sut i ddefnyddio camera, cyfansoddi delweddau, datblygu ffilm du a gwyn ac argraffu eich ffotograffau eich hun.
Gallwch ymuno â'r grwp heb fod wedi cymryd ffotograff erioed o'r blaen.
Dyma rai enghreifftiau o waith ein haelodau.
A dyma rhai o'n haelodau
Mae gan Oriel a Siop Celfi Oriel ar-lein yn cynnwys gwaith ein haelodau.
Ar gyfer amserau'r gweithdy hwn a'r gweithdai eraill dychwelwch i'r amserlen
