Canolfan Celf a Dysg y Ddraig

 

Gweithdai a Hyfforddiant

Mae Canolfan y Ddraig yn cynnig ystod eang o gyfleoedd addysgol. Dyma ein gweithdai parhaol ar ein hamserlen reolaidd

Trwy gydol y flwyddyn rydym hefyd yn cynnig gweithdai achlysurol mewn partneriaeth a chyrff neu diwtoriaid allannol sy'n cael ei rhedeg am un diwrnod neu gyfres dros ychydig wythnosau. Cant eu cynnal yn y ganolfan, mewn canolfannau eraill yn y gymuned neu yn rhyngwladol fel rhan o'n Rhaglen Waith Allanol.

Weithiau mae'r rhain yn cymryd ffurf sesiynau cael blas ar bwnc a fydd yn arwain at ychwanegiad parhaol i'r amserlen. Caiff manylion o'r rhain eu gosod ar y dudalen hon.

 
 

Strwythur Dysgu newydd yng Nghanolfan y Ddraig

Yn Ionawr 2010 bydd y Ganolfan yn cyflwyno strwythur newydd i'r amserlen.

Sesiynau Caeëdig

Bydd aelodau yn cael cyfle i ennill cymwysterau Agored Cymru (OCN Gynt) trwy ddilyn cyrsiau 6- 8 wythnos, ym mhob maes dysgu.

Bydd y gwersi ffurfiol yn cael eu dysgu gan amlaf yn y prynhawn rhwng2.00 - 4.00.

Bydd y sesiynau hyn yn gaeedig. Bydd yn rhaid i aelodau gofrestru ar gyfer y cyrsiau a mynychu gymaint o'r gwersi a sy'n bosib i ennill y cymhwyster OCN perthnasol.

Bydd gwybodaeth penodol am y cyrsiau yn cael eu rhoi ar dudalen gwe y pwnc.

Ein bwriad wrth ail strwythuro'r amserlen yw i sicrhau ein bod yn gallu darparu ar gyfer anghenion unigol ein haelodau yn llawn, os ydynt eisiau dilyn y llwybr o ennill cymwysterau.

Bydd o fydd i aelodau sydd eisiau parhau mewn addysg mwy ffurfiol mewn coleg a phrifysgol, neu i ennill sgiliau bywyd ar gyfer cyflogaeth.

Sesiynau 'Agored' y bore

Bydd Sesiynau ‘Agored’ yn cael eu cynnal yn y bore rhwng 10.00 - 1.00 a bydd aelodau yn cael cyfle i hunan addysgu, o fewn amgylchfyd addysgol anffurfiol gyda chefnogaeth y tiwtoriaid.


 
 

Estyn i'r gymuned

Bwriad Canolfan y Ddraig yw i ehangu gwasanaethau yn y gymuned trwy ddanfon tiwtoriaid i weithio yn y gymuned gyda grwpiau a fyddai'n cael anhawster i ddod i'r ganolfan.

Rydym hefyd yn ynghlwm a phrosiectau cyfnewid yn genedlaethol a rhyngwladol.

Cysylltwch a Canolfan y Ddraig os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth hwn.