Newyddion a Digwyddiadau
Penawdau Gaeaf 2009/10
Gwersi Sgiliau Sylfaenol Newydd
Bydd Dosbarthiadau Sgiliau Sylfaenol trwy gyfrwng y Saesneg yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd (Ionawr 4edd, 2010) ac yn cael eu dysgu gan Ryan Lloyd. Ewch i'r dudalen saesneg ar gyfer mwy o fanylion am y cyrsiau Sgiliau Sylfaenol.
Dathliadau Tân Hydref 26in
Bu staff ac aelodau o Ganolfan y Ddraig yn ffodus i fynd ar ymweliad gyfnewid diwylliannol i Izmir, yn Nhwrci fel rhan o "Ddathliadau Tân Ewropeaidd" a noddir gan Grundtvig. Ymysg y partneriaid a fu'n mynychu'r prosiect oedd ein gwesteiwyr o Dwrci, a phartneriaid o Ddenmarc, Sbaen, a'r Weriniaeth Czec.
Darllenwch fwy am yr ymweliad i Twrci
Diwrnod Iechyd Meddwl 2009
Cymerodd Canolfan Y Ddraig rhan mewn sawl digwyddiad a'u cynhaliwyd yn Abertawe i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl 2009 Ar ddydd Gwener y 9ed o Hydref, ymunodd y Ganolfan gyda nifer o'n partneriaid yn Theatr y Grand i godi ymwybyddiaeth o Iechyd a Lles Meddwl.
Ar ddydd Sadwrn y 10ed o Hydref, mewn cydweithrediad a thîm "Headroom" y BBC gweithiodd Canolfan y Ddraig ar ddarllediad gwe byw o Erddi'r Castell gyda llawer o hwyl yn peintio wynebau a bagiau defnydd.
Ar ddydd Sul yr 11eg o Hydref, dyluniodd a pheintiodd ein gweithdy celf coeden ar ddefnydd gwyn i'w ddefnyddio mewn 'noswyl canhwyllau' yn Eglwys Santes Fair. Bu'r penwythnos yn llwyddiant mawr gan oresgyn y rhwystrau i gael mynediad i wasanaethau dydd yn Abertawe.
Wythnos Ffoaduriaid Cymru 2009
Hoffai Canolfan y Ddraig ddiolch i pawb a fynychodd ein gweithgaredd ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid Cymru 2009 ar ddydd Mercher 17eg o Fehefin.
Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'r unigolion a rhoddodd mor hael, ac i'r “Body Shop” a “Lush” am eu rhoddion o nwyddau prydferthwch ac i Glenwyn Morgan am gyfrannu o'i hamser.
Bu'r bore yn llwyddiant ysgubol gyda'r rhoddion i gyd yn mynd i gartrefi da. Mwynhaodd pawb y sesiynau Celf, Reiki, peintio wynebau a'r cacennau hyfryd.