Prosiectau Canolfan y Draig

Mae Canolfan y Ddraig yn cynnig ystod eang o gyfleoedd addysgol a phrofiadau yn amrywio o ddosbarthiadau mewn canolfannau cymunedol arall i Ymweliadau Cyfnewid i Wledydd Ewropeaidd arall.

 

Canolfan y Ddraig yn y Gymuned

Mural in Family HousingMae Canolfan y Ddraig wedi cwblhau sawl cynllun a phrosiect allanol gyda'n partneriaid yn y gymuned. Rydym yn bwriadu ymestyn rhaglen o weithgareddau a dosbarthiadau allanol lle bydd ein tiwtoriaid yn gweithio yn y gymuned gyda grwpiau a fyddai'n ei chael yn anodd i fynychu'r Ganolfan ei hun.

Bydd hyn yn fodd i ni gynnig cyrsiau, cymwysterau cydnabyddedig a phrosiectau tu hwnt i furiau'r Ganolfan

Caiff mwy o fanylion am hyn ei roi ar y dudalen hon yn fuan.

 
 

Prosiectau Cenedlaethol canolfan y Ddraig

Mae'n Prosiectau yn y gorffennol wedi cynnwys Cydweithrediad gyda Opera Dinas Abertawe gyda'n haelodau yn creu a pherfformio darn Operatig gwreiddiol yn ogystal â perfformio mewn Operâu eraill gyda Opera Dinas Abertawe.

Dilynwch y ddolen hon ar gyfer yr archif (yn Saesneg yn unig)

 
 

Canolfan y Ddraig yn Rhyngwladol

Tan yn ddiweddar, yr hyn roedd pobl yn cysylltu â dysgu oedd addysg mewn ysgol neu brifysgol. Ond heddiw mae Ewrop yn trawsnewid i fod yn gymdeithas wedi seilio ar wybodaeth a dysg.

Mae hyn yn golygu bod yr wybodaeth sy'n sbarduno menter busnes a gwyddonol yn cynnig mantais fawr i'r UE. Mae'r Rhaglen Dysgu Gydol Oes (The Lifelong Learning Programme) yn cefnogi a galluogi unigolion i ddilyn cyfleoedd addysgol cyffrous dryw gydol eu hoes ar draws Ewrop.

Dilynwch y ddolen hon ar gyfer mwy o fanylion am Y Dathliadau Tân.