Cerameg a Chrochenwaith
Mae clai yn ddefnydd difyr. Mae ganddo gyfoeth o rinweddau sy'n ei wneud yn ddefnydd hyblyg a hwylus i'w weithio.
Gallwch ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau modeli, addurno, a thanio.
Gaynor Thomas
Esther Ley

Mae'r dosbarth crochenwaith yn addas i bobl heb unrhyw brofiad o'r cyfrwng.
Dysga'r aelodau sut i adeiladu a'u dwylo gan ddefnyddio technegau traddodiadol fel rhaffi, 'slabio', a chastio slip er mwyn creu llestri.
Maent hefyd yn cael dysgu technegau addurno megis defnyddio slipiau a "glaze" cyn tanio'r gwaith.
Ni chyfyngir yr aelodau i wneud ond potiau a bowliau, ond anogir hwynt i fod yn greadigol yn eu gwaith.
Yn ogystal, mae aelodau wedi creu ystod eang o eitemau yn amrywio o blaciau mur i botiau planhigion, o lampau bwrdd i gerfluniau clai.
Mae'r gweithdy clai yn cynnig profiad teimladwy sy'n ymlacio pawb sy'n ei brofi. Mae'r gweithredoedd o fowldio a thrafod clai a'ch dwylo yn therapiwtig iawn a yn dod a chryn foddhad.
Mae gan Oriel a Siop Celfi Oriel ar-lein yn cynnwys gwaith ein haelodau.
Ar gyfer amserau'r gweithdy hwn a'r gweithdai eraill dychwelwch i'r amserlen